Blogs in Welsh

 

September 2017 

Mae TomSimone yn dod o Fethesda, adaw eiwraig ddim ymhell, o Langefni. Maent yn magu tri o blant ifanc sy’n4, 6 a 10oed–felly maen nhw’n defnyddio tipyn go lew o ynni o gwmpas y tŷ. Mae’na lot o olchi, ac offer electronig amrywiol ymlaen, ac felly gall y biliau trydan fynd yn reit ddrud!

Tom SimoneHeloTom. Sut wnest ti ddod yn rhan o brosiect Ynni Lleol?

Mae un o’r bobl ddaru sefydlu’r prosiect–Mel –mae ei phlant yn mynd i’r un ysgol â rhai fi, felly dwi’n nabod hi.Wnes i glywed hi’n siarad am y prosiect mewn digwyddiad lleol a meddwl ei fod yn swnio’n grêt.

Beth ydi dy farn am y prosiect hyd yn hyn?

Wel, wnaethon ni newid i dariff Ynni Lleol o fesurydd talu-wrth-ddefnyddio. Roedd o’n eithaf drud–ac â bod yn onest, doedden ni ddim yn siŵr am y prisiau chwaith. Beth sy’n dda am y prosiect yma ydi ei fod yn dweud wrthon ni beth yw’r cyfraddau ar amserau gwahanol y dydd. Fel teuluoedd ledled y wlad, dan ni’n cael ein gwasgu o bob pen, felly bydd arian dros ben yn gwneud gwahaniaeth i ni.

Dach chi wedi newid eich arferion o ddefnyddio trydan?

Mae fy ngwraig a fi, y ddau ohonom yn gweithio ar ein liwt ein hunain, ac felly yn gweithio adra yn aml. Oherwydd dan ni’n defnyddio trydan drwy gydol y dydd, gallwn ni newid ein defnydd yn sylweddol. Dan ni wedi bod yn siecio’r hydro, asymud ein defnydd i’r amserau rhataf.

Pa effaith mae’r prosiect wedi ei gael ar y gymuned ehangach?

Dwi’n meddwl bod yna gymuned gref ym Methesda yn barod, ond mae cael rhywbeth efo ffocws lleol wedi rhoi cyfle i bobl ddod at ei gilydd ar gyfer rhywbeth sy’n dda i bawb. Mae wedi gwneud i bobl deimlo’n fwy cysylltiedig.

Sut mae’n teimlo i weld dy gymuned mewn prosiect arloesol?

Mae Bethesda yn aml wedi cael ei ystyriedynlle bach dibwys, ychydig yn bell o bobman. Mae’r chwarel wedidirywioers blynyddoedd, a dan ni wedi colli swyddi drwy hynny. Rŵan, mae gweld ein hunain yn arloesi yn rhoi balchder i mi.

I ti, beth yw’r peth gorau am fod yn rhan o’r prosiect hwn?

Pan wyt ti’n dod yn rhiant, mae dy ffrâm amser ar gyfer y dyfodol yn ymestyn–wyt ti’n meddwl a fydd ybyd hwn yn dal i fod yn fyd da i dy blant a dy wyrion.Dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn materion amgylcheddol a beth fedrwn ni ei wneud. Mae’n hawdd bod yn negyddol ond mae prosiectau fel hyn yn rhoi gobaith am fyd gwell–gallai prosiectau fel hyn ar raddfa llawer mwy wneud gwahaniaeth anferth. Mae’n gyffrous i weld ein bod yn medru newid ein ffynhonell trydan am y gorau.

—————————————————

 

August 2017

Mae Carwyn, sy’n hanu o Ogledd Cymru, yn cyfaddef ei fodyn techie sy’n mopio ei ben gyda phethau newydd cyffrous, felly roedd prosiect Ynni Lleol yn berffaith iddo.

 

CarwynHelo Carwyn, sut a pham wnest ti ymuno â dy Glwb Ynni Lleol?

Dwi’n byw yn Nyffryn Ogwen efo fy nghymar. Mae’r ardal yn grêt ar gyfer safon byw, ond roeddwn i’n meddwl o hyd y gallai fod yn well yn nhermaugweithio ar wahanol fathau o brosiectau –ar wahân i dwristiaeth neu hanes yr ardal. Roeddwn i am weld mwy o brosiectau oedd efo’u meddwl ar flaen y gad, ac felly pan glywais i gan ffrind am Ynni Lleol, roeddwn i’n meddwl, “ia, mae hwn i mi”.

Wyt ti’n meddwl ei fod wedi newid y ffordd wyt ti’n meddwl am dy ddefnydd ynni?

Roedden ni ar dariff eithaf cyffredin, ac ar y cyfan yn derbyn unrhyw fil oedd yn dod i mewn. Ar ôl bod yn rhan o’r prosiect dwi’n llawer mwy ymwybodol o’r hyn dwi’n ei ddefnyddio a phwysigrwydd hynny–oherwydd mae’na rywbeth alla i wneud amdano fo. Rŵan mae gen i ddylanwad uniongyrchol ar faint mae’n costio i ddefnyddio trydan, llawer mwy nag o’r blaen.Mae rhai o fy ffrindiaua fi hefyd wedi dechrau edrych ar geir trydan. Dan ni’n meddwl y gallai fod yn syniad da i wneud hynna–byddai’n berffaith ar gyfer teithio i’r gwaith bob dydd. Efo Ynni Lleol, mae’r tariff mor rhad yn y nos, mae bron am ddim! Dwi hefyd wedi meddwl am feic trydan i mam, i helpu hi fynd i fyny’r allt–nid nad oeddwn i wedi meddwl hyn o’r blaen, ond oherwydd y prosiect mae hyn yn opsiwn llawer mwy manteisiol rŵan.

Sut mae’r prosiect wedi effeithioar ygymuned leol?

Yn bendant mae yna ysbryd cymunedol i’rprosiect. Mae pobl nad oedd ganddyn nhw ddim byd i’w wneud gyda’i gilydd gynt,rŵan yn dod ynghyd o gwmpas nod cyffredin. Gyda’n gilydd, dan ni’n meddwl am sut fedrwn ni wneud y mwyaf o’r prosiect, sut i’w ddeall felcysyniad, a dysgu’n gilydd ac oddi wrth ein gilydd.Wyt ti rŵan yn bencampwr i’r prosiect yn dy gymuned.

Pam oeddet ti isio chwarae dyran ar y lefel yna?

Mae hyn yn mynd yn ôl i beth ddywedais i yn y dechrau–i annog pethau yn yr ardal leol dwi’n meddwlsy’n mynd i fod yn fuddiol i’r gymuned.Mae hi mor bwysig cael prosiectau sy’n rhoi teimlad o hunaniaeth i ardal, adan ni angen hyn yng ngogledd Cymru. Roeddwn i am roi rhywbeth gwahanol i’r prosiect, helpu rhoi sgiliau i bobl a’u datblygu nhw. Os medra i wneud hynny, mae’n werth rhywbeth.

—————————————————

 

July 2017 

Ganwyd a magwyd Donna Watts ym Methesda.Mae hi’n byw yno gyda’i gŵr a’i dwy ferch, 10 a 12oed. Mae’r ddau riant yn gweithio, ac fel llawer o deuluoedd eraill ym Methesda, gall ychydig o arian sbar ar ddiwedd y mis wneud gwahaniaeth fawr. Hyd yn hyn, meddai Donna, mae bod yn rhan o brosiect Ynni Lleol wedi lleihau eu biliau ynni o tua £30 y mis. Mae hi wrth ei bodd bod hi’n werth yr ymdrech!

 

Helo Donna! Beth wnaeth i ti ymuno â phrosiect peilot Ynni Lleol?

Mi glywes i bod Ynni Lleol yn chwilio am100 o gartrefi, ac roedd gen i ddiddordeb yn y syniad o gael fy ynni yn lleol o hydro lleol, a defnyddio ynni glân.

Pa mor hawdd oeddet ti’n meddwl oedd ymuno â’r cynllun?

Ar y dechrau roedd o’n anodd… er enghraifft, ro’n i’n arfer rhoi’r peiriant golchi llestri ymlaen yn syth ar ôl gorffen te. Ond rŵan dwi’n trio sefydlu rwtîn newydd. Mae’r gŵr wedi cael rhybudd–paid â’i roi o ymlaen tan ar ôl8! Rŵan mae’n edrych ar yr amser cyn roi’r peiriant ymlaen a gofyn“ Donna, ga i roi’r llestri ymlaen rŵan?”, adwi’n dweud“ na, aros am 15 munud arall!”

Pa effaith wyt ti’n teimlo mae o wedi ei gael ar y gymuned hyd yma?

Dwi’n meddwl fod o wedi dod â lot o wahanol bobl at ei gilydd, dwi wedi cyfarfod lot o bobl nad oeddwn yn eu nabod yn y pentref. Mae ‘na ystod o oedrannau, ac efo’r clwb ynni mae hi wedi bod yn braf dod at ein gilydd a thrafod syniadau am arbed ynni.

Fel rhywun sydd wedi ei magu yn yr ardal, sut wyt ti’n meddwl mae prosiectau fel hyn yn gallu helpu gwella bywydau pobl Bethesda?

Mae’n grêt bod prosiectau fel hyn yn gallu rhoi Bethesda bach ar y map a helpu datblygu llefydd fel y Stryd Fawr. Roedden ni ar X-Ray (rhaglen deledu Cymreig) wythnos ddiwethaf–ddarulot o bobl stopio fi“oh, ti wedi bod ar y teledu!” – mae pobl wedi eu cyffroi! Mae bod yn rhan o beilot sydd y cyntaf o’i fath yng Nghymru, mae’n anhygoel.

Ar beth wnei di wario’r arian wyt ti wedi ei arbed?

Mae’n dda rhoi trît i’r plant a mynd allan am y dydd efo’r teulu, adan ni ddim yngwneud hynna lot. Aethon ni Sul y Mamau am y tro cyntaf ers oes–aethon ni iBlas Newydd, lle yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. A mynd â picnic. Y gwahaniaeth yn y merched-just o dreulio amser efo’n gilydd i ffwrdd o’r teledu a’u ffôns–roedd hynna yn fendigedig. Efo’r arian dan ni’n ei arbed, dan ni’n gobeithio cawn ni fwy o ddyddiau fel hyn efo’n gilydd.

—————————————————

 

27 February 2017

Cyd Ynni = Cydweithio

 

Mae gweithio ‘ar y cyd’ yn rhan annatod o beilot Cyd Ynni – Ynni Lleol Dyffryn Ogwen. Dros y flwyddyn sydd wedi bod, rydym wedi  recriwtio dros 100 o gartrefi i gymryd rhan yn y peilot cyffrous, heriol ac arloesol yma yn Nyffryn Ogwen.  I’r rhai hynny ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd â’r lleoliad, mae Dyffryn Ogwen yn cynnwys nifer o gymunedau mewn ardal ôl-ddiwydiannol, gwledig y tu allan i Fangor, Gogledd Cymru.  Nid yw hon yn ardal gefnog ac mae bod yn rhan o brosiect fydd yn galluogi cartrefi i leihau eu biliau trydan yn apelio’n fawr ataf ar lefel bersonol ac hefyd i Bartneriaeth Ogwen, y fenter gymdeithasol dwi’n gweithio iddi.  Cwmni adfywio cymunedol wedi ei ariannu gan dri Chyngor Cymuned yw Partneriaeth Ogwen.  Rydym yn cyflawni’r gwaith clercio i gyd ar gyfer y tri Cyngor Cymuned lleol yn ogystal â datblygu prosiectau cymunedol yn yr ardal.  Mae’n prosiectau dros y dair mlynedd ddiwethaf yn cynnwys datblygu canolfan wasanaethau lleol Ogwen ar y Stryd Fawr ym Methesda, agor siop grefftau cymunedol a datblygu cynllun hydro cymunedol (disgwylir y bydd Ynni Ogwen Cyf yn cynhyrchu trydan erbyn mis Mai eleni!).  Fel sefydliad sy’n fodlon mentro a sy’n datblygu prosiectau arloesol, nid oedd yn rhaid meddwl dwywaith cyn cytuno i gymryd rhan ym mheilot Cyd Ynni – Ynni Lleol ac er nad ydyw wedi bod yn hawdd o ran tynnu pob dim at ei gilydd, rwy’n falch o ddweud ein bod nawr yn gweld pobl yn dechrau elwa o fod yn rhan o’r prosiect yma.

Un peth sy’n glir i mi, nid arbedion ariannol yn unig sy’n gyrru’r prosiect yma.  Wrth recriwtio, fe welsom mai prif gymhelliant pobl leol i fod yn rhan o’r prosiect yma oedd defnyddio trydan glan wedi ei gynhyrchu’n lleol.  Mae’r arbedion posibl i gwsmeriaid yn amlwg yn fonws ychwanegol, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu denu at y syniad o gadw cyfran o’u bil trydan o fewn y gymuned leol. Maent yn ei weld fel ffordd o gefnogi eu cynhyrchydd hydro lleol ac fel modd o gefnogi ynni gwyrdd.  Tu hwnt i’r cyfnod recriwtio, yr hyn yr ydym wedi ei weld ers sefydlu clwb Cyd Ynni Bethesda  yw ymwybyddiaeth gynyddol o gynaladwyedd a materion arbed ynni.  Yn ogystal â gohebu gydag aelodau’r Clwb ar bethau diflas fel gosod mesuryddion clyfar a gofyn am ganiatâd casglu data, rydym hefyd wedi bod yn trefnu nifer o ddigwyddiadau’r  clwb fel taith o amgylch ein safle hydro gymunedol leol, digwyddiad Nadolig cymdeithasol a Ffair Effeithlonrwydd Ynni.  Mae’r digwyddiadau yma wedi denu nifer o aelodau’r clwb ac wedi rhoi’r cyfle i ni drafod cynnydd y peilot, ond yn bwysicach na dim, mae wedi rhoi cyfle i ni godi ymwybyddiaeth o effeithlonrwydd ynni a materion cynaladwyedd ehangach. Mae’r digwyddiadau wedi rhoi cyfle i aelodau’r Clwb ddod i ddeall eu adroddiadau ynni a’u dangosfwrdd ynni hefyd – sef y teclynnau sy’n allwedd i uwchafu dealltwriaeth a budd o’r cynllun.

IMG_0848

Y peth gwych am fod yn rhan o’r treial yma yw gweld ymateb pobl yn newid yn ystod cyfnod y peilot.  Nid gweithred o switsio cyflenwr yn unig ydy bod yn rhan o Cyd Ynni – Ynni Lleol a’r hyn yr ydym wedi ei ganfod yw fod aelodau’r clwb yn cael eu sbarduno fwyfwy i newid eu arferion defnydd ynni er mwyn cynyddu’r budd amgylcheddol a phersonol a ddaw o fod yn rhan o’r cynllun.  Mae’r bobl hynny sydd nawr â mynediad i’r dangosfwrdd ac adroddiadau ynni yn newid eu harferion defnyddio trydan ac yn mynd yn fwy cystadleuol!  Maent eisiau gwella eu sgôr cymunedol a’u sgôr personol a mae nhw eisiau dysgu sut i wneud rhagor o arbedion.  Maent hefyd yn mwynhau’r syniad o fod yn rhan o glwb sydd yn gwneud gwahaniaeth yn lleol, y syniad o weithio efo’i gilydd er budd eu cymuned a’u amgylchedd.  Er gwaethaf problemau cychwynnol  gyda’r cynllun, rwy’n parhau i dderbyn adborth positif “Cariwch ymlaen!  Rydych yn gwneud rhywbeth gwych.  Rydym yn sylweddoli ei fod yn heriol ond rydym eisiau bod rhan o hyn.”   Mae gennym berthynas bositif gydag aelodau’n clwb ac mae’r ymdeimlad o gyd-berchnogaeth a chydweithio yn cynyddu.  Mewn un synnwyr mae angen i Bartneriaeth Ogwen ymbellhau ein hunain oddi wrth ymholiadau am filiau’r cyflenwyr ynni, ond ar y llaw arall, mae’r ffaith ein bod ni yma ar y Stryd Fawr, yn delio â phryderon neu ymholiadau yn fonws ychwanegol i aelodau’n clwb.  Maent yn awyddus i deimlo’n agosach a chymryd mwy o berchnogaeth dros eu defnydd o drydan ym mhob ystyr.  Gallaf ddychmygu na fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn llofnodi  ymholiadau i  gyflenwyr trydan gydag emojis yn gwenu os nad ydynt yn hapus i fod yn rhan o’r prosiect yma!

Dwi am orffen efo ychydig o luniau o ddigwyddiadau’r Clwb a drefnwyd gennym.  Maent wedi bod yn ffynhonnell gwybodaeIMG_0851th am y  cynllun ond hefyd maent wedi rhoi ysbrydoliaeth ac wedi rhannu gwybodaeth ar lefel gymunedol.  Ein nod nawr yw cymell aelodau’r Clwb i drefnu digwyddiadau eu hunain.  Mae nifer o Bencampwyr Ynni wedi eu hadnabod ac rydym yn gobeithio gweithio gydag un ohonynt ar ymweliad ‘Tŷ Ynni Agored’ yn ei gartref yn y Gwanwyn.

Dyfodol y peilot yma ym Methesda yw i gydweithio’n agosach, nid yn unig fel rhanddeiliaid a phartneriaid sydd wedi datblygu’r prosiect, ond cydweithio fel clwb.   Dyma rym ymdrech a brwdfrydedd cymunedol yn cydweithio er budd y gymdeithas a’r amgylchedd.

CYD YNNI – AR Y CYD!

Diolch,
Mel

Mel, Partneriaeth Ogwen